Tag Archives: blaenwyr

Robin McBryde – y Gog yn cadw trefn

Pan nad yw’n cadw’r cleddyf, mae Robin McBryde yn hoffi crwydro Maes yr Eisteddfod cystal â neb. Yn y Bala eleni, cafodd yr anffawd o gyfarfod newyddiadurwyr disgleiriaf GwladRugby.com, a chyda dwsinau o ryfelwyr cadair breichiau yn anelu eu hallwedd-fyrddiau ato fo, cytunodd yn raslon iawn i roi cyfweliad i wefan ‘galacticos’ hunan-enwebiedig y We Gymreig.

Prolio oedden ni eisiau, wrth gwrs, yn anad dim. ‘Toedd blaenwyr Cymru wedi gwneud yn wych yn Ne Affrig? ‘Toedd gynnon ni mwy na thebyg y rheng flaen orau yn y byd erbyn hyn? Neu o leiaf ymysg y rhai gorau? ‘Ydy wir,’ medd Robin, ond yn fwy pwyllog na ni, ‘mae’r bechgyn wedi gwneud tipyn o enw iddyn nhw eu hunain ar ôl eu perfformiadau yn erbyn De Affrig, ac rwy’n siŵr y bydd ein gwrthwynebwyr yn edrych yn fwy manwl ar yr agwedd yma yn eu paratoadau yn ein herbyn.’

Mae’n siŵr y daw mwy fyth o bwysau ar y rheng flaen yn yr Hydref, gyda dau o’r tri disgleiriodd yn erbyn De Affrig wedi’u hanafu, ac eto yn y bencampwriaeth, pan fydd gwledydd eraill yn awyddus iawn i herio’r hogiau llwyddodd gyda’r Llewod. Ond mae teimlo bod mantais i ni yn y sgrymiau yn gymorth sylweddol, ‘tydi? Mae Robin yn cytuno: ‘Mae hyn yn cael tipyn o effaith ar y garfan – ac mae gweld sgrym y gwrthwynebwyr yn mynd tua ‘nôl yn codi pawb yn y garfan, hydnoed y cefnwyr!’

Gobeithio bydd hyn yn codi hogiau ni i lefelau newydd. ‘Mi fydd yn rhaid aros i weld os oes yna wahaniaeth agwedd,’ medd Robin, ‘ond mae’r ysbryd yn uchel ym mhob rhanbarth ar hyn o bryd.’ Cawn ond gobeithio bod hynny’n dal i fod yn wir am Gaerdydd…

Mae GwladRugby.com, wrth gwrs, yn poeni am gemau’r Hydref, ac yn enwedig am y ffaith na fydd y ddau brop dewis cyntaf ar gael. Yn wir, mae llawer ohonom ni yn colli cwsg wrth feddwl am wynebu Seland Newydd hebddyn nhw. Mae Robin unai yn fwy ymlaciol na ni, neu’n ddigon doeth i beidio cyfaddef os ydy o’n colli cwsg.

‘Mi fydd hi’n dipyn o job ceisio llenwi’r bylchau ar ôl anafiadau i Gethin ac Adam,’ mae’n cyfaddef, cyn honni’n frwdfrydig bod yna ‘opsiynau i ni ar y ddwy ochr i’r sgrym. Rwy’n siŵr fod pob un sy’n chwarae yn y safleoedd yna yn ymwybodol o’r cyfle sydd ar gael iddynt, ac yn hyderus y gwnawn nhw eu gorau i greu argraff tra’n chwarae dros eu rhanbarthau.’

Mae’r neges yn ddigon plaen – nid oes ail ddewis amlwg ar gael (ac eithrio Duncan Jones ar y pen rhydd, mae’n siŵr), felly bydd pob dim gwirioneddol yn dibynnu ar berfformiadau’r rhanbarthau. Bydd yn ddiddorol gweld gweinydd GwladRugby.com yn toddi os caiff Cai Griffiths ei ddewis – ond mae pawb yn ei iawn bwyll, wrth gwrs, yn ysu cael gweld Eifion Lewis Roberts ar y cae. Mwyaf yn y byd o Gogs yn y tîm, gorau yn y byd!

Gan fod Gogledd Cymru bellach yn rhan o ranbarth Llanelli, roedd awydd cyffredin i ganmol Matthew Rees, ac i gofio cyfraniadau a fu ar GwladRugby.com yn awgrymu na fyddai fo’n cadw ei le yn y garfan am yn hir wedi dyfodiad, ym, pwy oedd o eto? O ia, Richard Hibbard. Beth oedd Robin yn meddwl am berfformiadau bachwr Llanelli?

‘Mi gafodd Matthew gyfres arbennig,’ medd Robin, ‘a beth sydd yn rhaid iddo wneud ydy mwy o’r hyn a welsom yn yr haf er mwyn sicrhau cadw ei le yn y tîm. Wrth chwarae’n dda ac yn gyson, mae o’n gosod y safon i’r bachwyr eraill yng Nghymru, ac yn rhoi’r neges iddynt nad ydy o’n bwriadu colli y crys!’

Ac, wrth gwrs, mae gwastad yn syniad da i gael bachwr o Lanelli, tydi? ‘Pwynt da!’ meddai hyfforddwr blaenwyr Cymru.

Hyfforddwr blaenwyr Cymru ydy o am rŵan, ond yn ystod yr haf cafodd y profiad o arwain Cymru – rhywbeth y mae llawer o aelodau GwladRugby.com wedi dychmygu eu hunain yn gwneud, a hynny’n well na neb ers Lynn Howells. Sut brofiad oedd o?

‘Mi roedd arwain y daith yn brofiad arbennig, ac un nes i fwynhau yn fawr iawn. Mi ddysgais lawer o bethau, yn enwedig y pwysigrwydd o ddewis y math iawn o chwaraewr i deithio, a chael y cydbwysedd yn y garfan rhwng profiad a photensial yn iawn. Rwy’n teimlo ein bod ni wedi llwyddo i wneud hyn drwy gadw safonau uchel trwy gydol y daith, ar y cae ac i ffwrdd,’ meddai – doedd y daith ddim yn gyfle i ymlacio gormod, mae’n amlwg.

A’r canlyniad – mae gan chwaraewr gorau Porthaethwy record gorau unrhyw hyfforddwr ers Lynn Howells, sef 100%. Fedrwch chi ddim gofyn am fwy – ac mae’n gosod marc i Warren Gatland anelu ato fo, hefyd…;-)

Ond roedd yn daith anoddach i rai nac eraill: ‘Fe ‘gollodd’ Mark Jones ei bassport ar y ffordd allan, felly fe gafodd amser eithaf caled gan bawb – ond fe ddangosodd o ddigon o gymeriad i fedru troi y cwbwl yn destun sbort a barhaodd am weddill y daith, a chadw ysbryd pawb ar i fyny.’

A dyna pam, os dach chi’n gofyn i OwenR, dylai fo wedi bod ar y daith i Dde Affrig. Siawns y byddai fo wedi cymryd y cyfleon daeth i Ugo Monye yn y prawf cyntaf, wedi’r cyfan?

Mae GwladRugby.com wedi bod yn poeni am linellau Cymru ers peth amser. Wel, ers y 70au, dweud y gwir, gydag un saib bach diolch i Robert Norster. Dewch, Robin – beth ydy beth yn hyn o beth?

‘Ydy, mae’r llinellau yn fwy pwysig nag erioed,’ mae’n cytuno, ‘ond er ein bod ni’n dal i gael ein barnu gan un neu ddau, mi rydym wedi gwella’ yn ddiweddar. Rwy’n meddwl fod y cysondeb sydd wedi bod yn newisiad y chwaraewyr yn y pac wedi chwarae rhan yn gwella’r ddealltwriaeth a’r cysondeb yn ein perfformiadau, ond mae yna dal lle i wella hefyd.’

Mae pobl yn hoff o weld bai ar y bachwyr os eith y llinell o’i le, tydyn nhw? Ond nid dyna’r achos bob tro?

‘Mae yna sawl agwedd i’r llinell sydd yn rhaid cael yn iawn – felly mae yna ddigon o fanylion i ganolbwyntio arnyn nhw – ac mae’n rhaid i’r cyfan weithio gyda’i gilydd ar yr un pryd i fod yn llwyddiannus. Ar hyn o bryd, Victor Matfield yw’r brenin, ac mi rydym yn gweithio’n galed i gynhyrchu chwaraewr o’r math yna ein hunain i reoli’r cwbwl.’

Rhaid cyfaddef, mae hynny’n ateb digon teg. Byddai’n ddiddorol clywed mwy am sut yn union mae’r broses yna’n mynd yn ei flaen – ond bydd GwladRugby.com yn siŵr o ddychwelyd fel peint o gwrw gwael i ofyn mwy am hyn yn y dyfodol.

Yn olaf, ac ynteu’n ysu am gael dianc, roedd rhaid i ni geisio ateb arall i gwestiwn pwysicaf GwladRugby.com. Ym marn Robin McBryde, heb unrhyw bwysau i gytuno gyda Warren Gatland, pwy ydy’r cyflymaf – Superman neu Flash?

‘Flash!’ meddai’r Cymro cyflymaf. [Ydy hyn yn iawn? Gol.] Mae’n bechod garw gweld cyn lleied o ffydd sydd gan tîm hyfforddi Cymru yn Superman ei hun. Yn enwedig wrth feddwl cymaint o gymorth byddai fo ar y pen tynn yn yr Hydref, i gadw lle Adam Jones yn gynnes.

[Gan ddiolch yn fawr iawn i Robin McBryde am ei amser a’i amynedd.]