delmethomas

Cawr o Gymro

Petai rhyw greaduriaid o blaned arall yn glanio yn eich gardd cefn ac yn gofyn i chi beth yw Cymro, man a man i chi ofyn iddyn nhw fynd i bentre Bancyfelin yn Sir Gâr a ffeindio Delme Thomas. Dyma gawr o ddyn. Cawr o ran maint ond hefyd cawr o ran ei gymeriad; boi ei filltir sgwâr ond yn un sydd wedi teithio’r byd; caled a gwydn ar y cae rygbi ond yn gyfaill tyner oddi arno.

Wel, dyna sy’n amlygu ei hun yn ei lyfr, Delme, ta beth. Alun Gibbard a fu’n helpu ysgrifennu hanes ei fywyd. Cam naturiol i Gibbard, efallai, ar ôl cyhoeddi’r hanes am awr fwyaf Delme, sef buddugoliaeth Llanelli yn erbyn y Crysau Duon yn 1972, Who Beat the All Blacks? Ar ôl y llun enwog o’r sgorfwrdd ar y Strade’r diwrnod hwnnw, y llun o Delme’n cael ei gario gan y dorf yw’r un mwya’ cofiadwy, mae’n siwr. Ac yntau’n gapten ar y tîm, fe wnaeth, gyda Carwyn James, ysbrydoli’i gyd-chwaraewyr. Fe wnaeth hynny drwy ei esiampl ar y cae ond hefyd trwy ei araith cyn y gêm.

Mae dwy bennod wedi eu rhoi ar gyfer y gêm fawr honno ond mae’n dweud y cyfan am y dyn nad yw e’n rhoi gormod o sylw i’r araith, er i eraill wneud ar y pryd ac ers hynny. Mae’n rhoi mwy o sylw i’w gyd-chwaraewyr ac yn arbennig i’w hyfforddwr, Carwyn James, am y fuddugoliaeth chwedlonol. Yn wir, mae yna dipyn o sylw i Carwyn yn y llyfr. Carwyn fel hyfforddwr ond hefyd Carwyn fel person. Roedd yr hanesion hynny’n rhai darllenadwy iawn. Roedd e’n amlwg yn gwybod sut i drin pobol, p’un ai’n ddyn a oedd yn feistr ar y maes chwarae neu’n fenyw â oedd yn cyd-weithio ‘da fe yng Ngholeg y Drindod. Mae’r hanes amdano yn ymwneud â’r cymeriadau gwahanol yn un o uchafbwyntiau’r bywgraffiad.

Ond nid gyda’r Crysau Duon mae’r hanes yn dechrau. Yn hytrach gyda Delme’n cael ei ddewis i fynd ar daith y Llewod i Seland Newydd, ac yntau heb chwarae dros ei wlad. Hyd yn oed wedyn, y peth sydd amlycaf yn y bennod cyntaf yw nid y Llewod ond y filltir sgwâr. Bancyfelin. Cartre’ i dri Llew erbyn hyn wrth gwrs, gyda Mike Phillips a Jonathan Davies, yn ymuno â Delme. Anodd credu heddiw bod taith Llewod yn parhau cyhyd. Mae hi hyd yn oed yn anoddach dychmygu Alun Wyn Jones yn cael ei ddewis i chwarae fel prop mewn gêm brawf dros y Llewod, ond dyna a wnaeth Delme. Wrth ddarllen y llyfr, dyna un o’r pethau sy’ mwya’ trawiadol: cymaint mae rygbi wedi newid.

Mae’r newid hwnnw yn cymryd tipyn o sylw’r awdur. Mae ei farn ar pa mor galed yw’r gêm heddiw’n ddiddorol. Er bod yr ‘hits’ yn galetach, mae’n argyhoeddedig bod rygbi’r gorffennol yn llawer mwy peryglus. Heb lumanwyr i ymyrryd â’r chwarae a heb y camera, roedd yr hyn a ddigwyddodd pan nad oedd y bêl yno neu yn y ryc a’r sgarmes dipyn mwy brawychus. Newid arall sydd yn ddiddorol yw’r newid hwnnw o fod yn chwaraewr i’r hyn a ddigwydd ar ôl ymddeol. Bu Delme am gyfnod hir yn yr ysbyty yn dioddef o iselder. Yn ddigon o ddyn i fod yn onest am hynny, mae’n adrodd yr hanes yn dyner ac, eto, yn ddiolchgar iawn i eraill gan dynnu sylw oddi arno’i hunan. Mae’r gonestrwydd hynny a’r modd mae e wedi ymdopi yn ddigon gafaelgar i’r darllenydd.

Fel cefnogwr Llanelli fy hun, mae’n anodd peidio closio at Delme. Ac yntau’n Gymro Cymraeg i’r carn ac yn chwaraewr heb ei ail, mae hwn yn fywgraffiad sydd yn mynd y tu hwnt i ddisgrifio un gêm bwysig ar ôl y llall. Fe fyddwn i wedi hoffi petai e wedi sôn mwy am ambell i hanes, fel y teithiau i Dde’r Affrig y bu arnynt yn ystod cyfnod apartheid, ond dyw e ddim yn gwneud. Beth sydd yma yw hanes Cymro. Llyfr am un ohonom ni. Mae’n werth ei ddarllen.

Llyfr Delme yn cyhoeddi gan Y Lolfa.